Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Gorffennaf 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt
fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd
wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog
34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau
electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog
34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd
cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol.
Datganiadau ar Srebrenica
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
5 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau Covid-19?
I’w ateb gan Gweinidog yr Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Carwyn Jones (Pen-y-bont): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn adroddiadau bod Ineos yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
6 Datganiad gan y Weinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
(60 munud)
7 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy: dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth
(45 munud)
8 Dadl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Effaith Covid-19 ar Chwaraeon
(30 munud)
NDM7344 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o Covid-19 ar chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2020.
9 Dadl y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-967 -Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru
(30 munud)
NDM7343 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb 'P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru' a gasglodd 5,790 o lofnodion.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
(60 munud)
NDM7345 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu llacio'r cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith andwyol y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 5(a) a rhoi yn ei le:
'cytuno i sefydlu pontydd awyr i wledydd eraill pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a chadw trefniadau teithio o dan adolygiad parhaus; '
Gwelliant 3 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'sicrhau bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus;'
11 Cyfnod pleidleisio
12 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
(60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yn gofyn am benderfyniad ariannol.
Mae’r Llywydd wedi ystyried y gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3 yn unol â Rheol Sefydlog 26.72, ac mae wedi penderfynu nad yw effeithiau unrhyw un o’r gwelliannau, neu’r gwelliannau oll, os cytunir arnynt, yn gofyn am benderfyniadau ariannol.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol
1, 3, 2
2. Pwerau arolygu
4, 5, 6, 7, 8, 9
Dogfennau
Ategol
Y
Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
Memorandwm
Esboniadol
Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli
Grwpio
Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 10.00, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2020